Newyddion / News

2 news items to display

  • GWIS NEWYDD / NEW UNIFORM
  •  
  •  Date Posted: Tue, 22 Jul 2025

    GWISG NEWYDD i'r Côr!
    New Uniform for the CHoir!

     


    Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno gwisg newydd sbon ein côr!
    Wedi misoedd o gynllunio, dewis ffabrigau, a chasglu barn aelodau, mae ein côr bellach yn camu ar y llwyfan gan edrych mor unedig ag ydym yn swnio. Mae’r gwisgoedd newydd yn taro’r cydbwysedd perffaith rhwng traddodiad ac arddull fodern, maent yn galluogi pob cantor i berfformio gyda hyder a balchder.
    Nid golwg yn unig yw’r newid hwn. Mae ein golwg newydd yn cynrychioli twf a datblygiad hunaniaeth ein cor. Mae’n symbol o undod — yn atgof gweledol bod, er bod pob un ohonom yn dod ag un llais unigryw, ein bod yn gryfach ac yn fwy pwerus gyda’n gilydd.
    Allwn ni ddim aros i chi ein gweld (a’n clywed) yn ein perfformiad nesaf. Gwisgoedd newydd, yr un ysbryd — a llawer iawn o harmoni.



    We’re thrilled to unveil our choir’s brand new uniforms!
    After months of planning, selecting fabrics, and gathering input from members, our choir now steps onto the stage looking as unified as we sound. The new uniforms strike a perfect balance between tradition and modern style, they allow each singer to perform with confidence and pride.
    This update isn’t just about aesthetics. Our new look represents the growth and evolving identity of our choir. It’s a symbol of togetherness — a visual reminder that while each of us brings a unique voice, we are stronger and more powerful as one.
    We can’t wait for you to see (and hear) us at our next performance. New uniforms, same spirit — and a whole lot of harmony.
     


  • Elwyn - Tenor
  •  
  •  Date Posted: Mon, 14 Apr 2025
    Elwyn - Tenor
    Elwyn - Tenor
    Pleser oedd gwahodd Elwyn a'i wraig Olga i’r ymarfer nos Iau er mwyn i ni gael diolch iddo am ei holl flynyddoedd o wasanaeth i’r côr. Mae Elwyn wedi penderfynu ymddeol o’r côr ac mae wedi bod yn aelod ac unawdydd ffyddlon am flynyddoedd maith.

    Mae llais Elwyn yn adnabyddus i nifer fawr drwy Gymru gyfan. Roedd yn rhan annatod o Driawd Menlli a ddiddanodd cynulleidfaoedd ar draws y wlad, aelod ffyddlon i nifer o gorau ac yn unawdydd o fri.

    Rydym ni fel côr wedi bod yn ffodus iawn cael ei gwmni, ei hwyl ai gyfeillgarwch.
    Nid yw’r gair DIOLCH wir yn cyfiawnhau ein gwerthfawrogiad i Elwyn am ei gyfraniad, ymrwymiad ai gefnogaeth i’r côr.

    DIOLCH AM BOPETH



    It was a pleasure to invite Elwyn and his wife Olga to the rehearsal on Thursday evening (10.04.2025) so that we could thank him for all his years of service to the choir. Elwyn has decided to retire from the choir and has been a loyal member and soloist for many years.

    Elwyn's voice is well known to many throughout Wales. He was an integral part of the Triawd Menlli which entertained audiences across the country, a loyal member of many choirs and a distinguished soloist.

    We as a choir have been very fortunate to have his company, his fun and friendship. The word THANK YOU really does not justify our appreciation to Elwyn for his contribution, commitment or support to the choir.

    THANK YOU FOR EVERYTHING
Brought to you by Making Music
Copyright © 2025 Côr Meibion Bro Aled