Hanes / History

Côr Meibion Bro Aled, Llansannan

Ffurfiwyd Côr Meibion Bro Aled yn 1976, dan arweinyddiaeth Mair Selway. Clwstwr o gymunedau gwledig yn yr ardal sy’n cydio dyffrynnoedd Conwy a Chlwyd ydy Bro Aled. Mae hi’n ardal â chanu yn ei gwaed, ac ni fu pall ar frwdfrydedd yr aelodau dros bron i 50 mlynedd ers hynny. I barhau’r traddodiad i’r dyfodol, cyfrwn ein hunain yn hynod o ffodus i gael Angharad Ellis a Dafydd Watson i’n harwain a’n hysbrydoli, gyda chyfeilio medrus Ann Edwards yn cyflawni’r tîm.

Tra bod y Côr wedi cefnogi eisteddfodau lleol a chenedlaethol yn gyson ers y dechrau, cymryd rhan mewn cyngherddau, gwyliau cerdd a digwyddiadau cymunedol sy’n rhoi’r pleser mwyaf inni, yn enwedig felly er mwyn codi arian at achosion da.

Rhyddhawyd 4 albwm o’n caneuon dros y cyfnod, gan gynnwys caneuon a gomisiynwyd gennym, fel bod gennym arlwy amrywiol. Credwn fod hyrwyddo cyfansoddi darnau newydd i gorau meibion yn bwysig, ac yn yr un modd byddwn wastad yn rhoi llwyfan i unawdwyr ifanc yn ein cyngerdd blynyddol.

—————————————————————————————

Côr Meibion Bro Aled was formed in 1976 by Mair Selway. Bro Aled is a cluster of rural communities in the area that links the Clwyd and Conwy valleys. It is an area that has singing in its veins, and the enthusiasm of its members has not diminished one bit over the nearly 50 years since then. To continue this tradition, we count ourselves blessed in having Angharad Ellis and Dafydd Watson to conduct and inspire us, with Ann Edwards’ talented accompaniment completing the team.

Whilst the Choir has supported local and national eisteddfodau since its formation, it is taking part in concerts, music festivals and community events that gives us the greatest pleasure, especially to raise money for charitable causes.

Over the years, we have released 4 albums of our songs, including pieces we commissioned, which has given us a varied repertoire. We believe that promoting the creation of new musical works for male voices is important, and likewise we always invite young soloists to perform at our annual concert.

Brought to you by Making Music
Copyright © 2025 Côr Meibion Bro Aled